Category Archives: News

Ffarwelio â Blwyddyn 6

Barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Are ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Iach ac Hyderus

Mae’n anodd credu bod yr amser wedi cyrraedd…diwedd blwyddyn 6. Diwedd eu hamser yn yr ysgol gynradd. Mae hi’n bendant yn ddiwedd cyfnod. Mae’r wyth mlynedd ddiwethaf wir wedi hedfan, ac mae ganddyn nhw lu o atgofion melys o’n hamser yn yr ysgol gynradd. Yn ystod yr wythnos hon, cafodd blwyddyn 6 y cyfle i berfformio eu gwasanaeth gadael o flaen torf balch.
https://www.youtube.com/watch?v=os_RcnJELoc

Fel ysgol, hoffwn ddymuno pob lwc i flwyddyn 6 wrth iddyn nhw drosglwyddo i’w hysgolion uwchradd!

It’s hard to believe that the time has come…the end of year 6. The end of their time at primary school. It is for sure, the end of an era. The past eight years have flown, and they all have sweet memories to cherish from our time at Primary school. During this week, year 6 had the opportunity to perform their leavers assembly in front of a proud crowd.

https://www.youtube.com/watch?v=os_RcnJELoc

As a school, we’d like to wish year 6 well as they transition to their secondary school!

Ymweliad Preswyl Bl 6 i Langrannog / Year 6 Residential Trip to Llangrannog

Barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Are ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Iach ac Hyderus

Cafodd blwyddyn 6 y cyfle i ymweld â Llangrannog i greu atgofion melys. Braf oedd gweld y disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyl ac yn gwneud ffrindiau newydd – yn barod ar gyfer y cam nesaf.

Year 6 had the opportunity to visit Llangrannog to create fond memories. It was nice to see the pupils taking part in the activities and making new friends – ready for the next stage of their education.

Diwrnod Gweithgareddau Blwyddyn 4 / Year 4 Activity Day

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. / Taking part in a physical activity.

Unigolion iach, hyderus. / Healthy and confident individuals.

Cafodd disgyblion Blwyddyn 4 ddiwrnod gwych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar Fferm Parc Newydd gydag Adventures Wales. Cawsant gyfle i ddringo wal, dringo’r rhaffau uchel, rhoi cynnig ar saethyddiaeth a’r hoff weithgaredd o bell ffordd oedd y cwrs mwdlyd. Pleser pur oedd treulio’r diwrnod gyda’n disgyblion anturus wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau personol eu hunain a’u sgiliau adeiladu tîm. Ffordd wych o orffen eu hamser ym mlwyddyn 4!

Year 4 pupils had a fantastic day taking part in activities at Parc Newydd Farm with Adventures Wales. They had the opportunity to climb a wall, scale the high ropes, try their hand at archery and the favourite acitivity by far was the muddy assault course. It was an absolute pleasure to spend the day with our adventurous pupils whist they developed their own personal skills and their team building skills. A fantastic way to end their time in year 4!

Cystadleuaeth Athletau / Athletics Tournament

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol / Taking part in a physical activity

Unigolio iach, hyderus / Healthy and confident individuals

Roedd plant blynyddoedd 4, 5 a 6 wedi cystadlu yn nhwrnamaint athletau ysgolion Cymraeg Abertawe, roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus iawn i’r plant a ddaeth yn drydydd! Arbennig i weld cymaint o ddisgyblion yn cystadlu mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau gwahanol.

Children from years 4, 5 and 6 competed in the Swansea Welsh schools athletics tournament. A very succesful day indeed with the children coming 3rd out of all the schools that competed. Amazing to see so many children taking part in a wide variety of competitions.

Gwyddoniaeth – Arbrawf Roced Balwn / Science – Rocket Balloon Experiment

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog. / Ambitious, capable learners.

Adeiladu sylfaen o wybodaeth ac yn meddu’r sgiliau i gysylltu a chymhwyso’r wybodaeth honno o fewn testunau gwahanol. / Are building up a body of knowledge and have the skills to connect and apply that knowledge in different contexts.

Cafodd blant blwyddyn 4 hwyl a sbri’r wythnos yma wrth iddynt gynnal arbrawf teg er mwyn ateb y cwestiwn: A yw maint y balwn yn effeithio ar gyflymder?

Year 4 pupils had a lot of fun this week whilst carrying out a fair test to answer the question: Does the size of a balloon affect how far it travels?

Gweithdy Darllen Bryntawe /  Bryntawe Reading Workshop

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog. / Ambitious, capable learners.

Gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. / Can communicate effectively in different forms and settings, using both Welsh and English.

Roedd yna lawer o gyffro yng ngham cynnydd 3 heddiw pan ddaeth ddisgyblion blwyddyn 7 o Ysgol Bryntawe i ymweld â disgyblion blwyddyn 4 er mwyn darllen y chwedlau maent wedi ysgrifennu yn ystod eu gwersi Cymraeg. Hyfryd weld wynebau cyfarwydd â newydd wrth iddynt ddifyrru’r plant gyda’i holl waith caled.

There was great excitement in progression step 3 today when year 7 pupils from Ysgol Bryntawe came to visit year 4 pupils in order to read the folk tales they had written during their Welsh lessons. Great to see familiar and new faces as they entertained the children with all their hard work.

Athletau / Athletics

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol / Taking part in a physical activity

Unigolio iach, hyderus / Healthy and confident individuals

Bu disgyblion o flynyddoedd 4, 5 a 6 yn cymryd rhan mewn athletau yr wythnos hon. Aethant i Heol Ashleigh i gynrychioli’r ysgol yn nhwrnamaint athletau Gorllewin Morgannwg. Braf oedd eu gweld i gyd yn mwynhau ac yn cystadlu i safon uchel. Da iawn chi gyd / Pupils from years 4, 5 and 6 took part this week in athletics. They went to Ashleigh Road to represent the school in the West Glamorgan athletics tournament. It was great to see them all enjoying and competing to a high standard. Well done all.

Prosiect IntoFilm / IntoFilm Project

Cyfranwyr Mentrus, Creadigol / Enterprising, Creative Contributors

Mynegi eu syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau gwahanol / express ideas and emotions through different media

Mae blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn brysur yr wythnos yma yn dechrau ar eu prosiect newydd IntoFilm, maent wedi cael y cyfle i ragfynegi eu syniadau ar ôl gwrando ar glip o’r ffilm.

Year 5 and 6 have been busy this week starting their new IntoFilm project, they have had the opportunity to predict their ideas after listening to a clip from the film.

Gweithgareddau D-Day / D-Day activities.

Yn wybodus am eu diwylliant. . / Are knowledgeable about their culture.

Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus. / Ethical, informed citizens.

Roedd Cam Cynnydd 3 wedi cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau i gofio D-day. Dysgon nhw ychydig am hanes D-day a phwysigrwydd y diwrnod yn ystod yr Ail Ryfel byd, roedd y gweithgareddau yn amrywio fel dylunio medal i’r milwyr , creu silhouette filwr ar y diwrnod a thasgau darllen a deall.

Progression step 3 took part in a variety of activities to remember on D-day. They learnt about the history of D-day and how important the day was in relation to the Second World War. The activities varied from designing a medal for the soldiers to creating a silhouette of the solider during D-day and reading comprehension tasks.

Arbrofi gyda micro:bit / Experimenting with micro:bits

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog / Ambitious, capable learners

Defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu,darganfod a dadansoddi gwybodaeth. / Use digital technologies creatively to communicate, find and analyse information.

Mae disgyblion Cam Cynnydd 3 wedi mwynhau arbrofi gyda micro:bits yr wythnos hon. Mae’r micro:bit yn gyfrifiadur maint poced sydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli meddwl creadigol mewn plant. Gellir ei raglennu mewn llawer o wahanol ffyrdd ac mae ganddo sawl defnydd. Trwy’r micro:bit, mae plant yn cael eu hannog i archwilio syniadau gan ddefnyddio cod go iawn. / The pupils in Progression Step 3 have enjoyed experimenting with micro:bits this week. The micro:bit is a pocket-sized computer designed to inspire creative thinking in children. It can be programmed in many different ways and has multiple uses. Through the micro:bit, children are encouraged to explore ideas using real code.