Monthly Archives: July 2023

Gweithio gyda’r artist lleol Nina / Working with the local artist Nina

Cysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion / Connect and apply their knowledge and skills to create ideas and products.

Celfyddydau Mynegiannol a Dyniaethau / Expressive Arts and Humanities

Mae disgyblion Blwyddyn 5 wedi bod yn ffodus i weithio gyda Nina, artist lleol sydd ers graddio wedi dysgu gwneud printiau mewn ysgolion a sefydliadau ledled Cymru. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn arddangosfeydd ledled Cymru. Bydd Nina yn dychwelyd y tymor nesaf i barhau i weithio gyda’n disgyblion a bydd eu darnau terfynol o waith yn cael eu harddangos gyda balchder yn yr ysgol am flynyddoedd i ddod.

Year 5 pupils have been fortunate to work with Nina, a local artist who since graduating has taught printmaking in schools and institutions across Wales. Her work has been exhibited within exhibitions throughout Wales. Nina will return next term to continue working with our pupils and their final pieces of work will be proudly displayed in the school for many years to come.

Hwyl Fawr Blwyddyn 6

Barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Are ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Iach ac Hyderus

Mae’r daith wedi dod i ben, mae wedi bod yn bythefnos hwylus gyda phrofiadau di-ri. Cafodd blwyddyn 6 y cyfle i ymweld a Langrannog i greu atgofion melys. Braf oedd gweld y disgyblion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn creu ffrindiau newydd ar gyfer y cam nesaf.

Yr wythnos hon bu disgyblion yn dweud hwyl fawr i deulu Tirdeunaw. Braf oedd gweld y neuadd yn llawn o rieni cefnogol yn dathlu diwedd y daith.

The journey has come to an end. It has a memorable fortnight with countless experiences. Year 6 had the opportunity to visit Llangrannog to create fond memories. It was nice to see the pupils taking part in the activities and making new friends for the next stage of their education.

This week pupils have said goodbye to the Tirdeunaw family. It was nice to see the hall full of supportive parents celebrating the end of the journey.

Gweithdy coginio gyda’r gogyddes Lisa Fearn. / A cooking workshop with the chef Lisa Fearn. 

Unigolion iach, hyderus sydd yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac
ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu
bywyd pob dydd.

Healthy, confident individuals who apply knowledge about the impact of diet and exercise
on physical and mental health in their daily lives.

Iechyd a lles / Health and wellbeing

Disgyblion blwyddyn 4 a 5 yn mwynhau gweithdy coginio gyda’r gogyddes Lisa Fearn. Gwnaeth y plant ddysgu am y gwahanol mathau o fwydydd a pharatoi pryd danteithiol. / Year 4 and 5 pupils enjoying a cooking workshop with the chef Lisa Fearn. They learnt about different types of food and prepared a delicious meal. 

Cystadleuaeth ‘Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig’ / ‘Welsh Heritage Schools Initiative’ Competition

Gwybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd, yn awr ac yn y gorffennol;

Are knowledgeable about their culture, community, society and the world, now and in the past

Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus

Llongyfarchiadau i ddisgyblion cam cynnydd 3 am eu holl waith ynghlwm â phrosiect ‘Treftadaeth Tirdeunaw’. Gwnaethom ennill y brif wobr yng nghystadleuaeth ‘Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig’ – gan dderbyn y darian ac £800. / Congratulations to our progression step 3 pupils for all the hard work they put in to the ‘Treftadaeth Tirdeunaw’ project. We were awarded the main prize in the ‘Welsh Heritage Schools Initiative’ competition – receiving the shield and £800.