Monthly Archives: March 2024

Wythnos Lles / Wellbeing Week

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol / Take part in physical activity.

This image has an empty alt attribute; its file name is iechyd-a-lles.png

Unigolion iach, hyderus / Healthy, confident individuals

Gwnaeth disgyblion cam cynnydd 3 fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn ystod ein hwythnos iechyd a lles. Gwnaethon nhw gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol megis – gweithdy cymorth cyntaf, gweithdy hiliaeth, sesiwn ymarferol o Jiu-Jitsu, sesiwn ymarferol gyda’r Gweilch, rhedeg milltir y dydd, sesiynau ioga, sesiynau meddylgarwch, plannu coed, therapi celf, gwylio ffilm am deimladau a gwneud smwddis iachus. Cafodd y plant llawer o hwyl a sbri wrth ddysgu pethau newydd.

The pupils in progression step 3 have enjoyed a variety of activities this week during out health and wellbeing week. They have had the opportunity to take part in a variety of activities such as – a first aid workshop, racism workshop, practical Jui-Jitsu session, practical session with the Ospreys, running a mile a day, yoga sessions, mindfulness sessions, art therapy, planting trees, watching a film about feelings and making healthy smoothies. The pupils  have had a lot of fun learning new things.

Ymweliad Preswyl Blwyddyn 5 / Year 5 Residential Trip

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol /Take part in physical activity

Unigolion iach, hyderus / Healthy, confident individuals

Gwnaeth disgyblion blwyddyn 5 fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn ystod eu hymweliad â Chanolfan Yr Urdd Pentre Ifan. Gwnaethon nhw gael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gwahanol megis – gweithdy ffasiwn gynaliadwy, gweithdy milltiroedd bwyd, gweithdy gwastraff a gweithdy myfyrdod. Yn ystod yr ymweliad, gwnaeth y disgyblion gwblhau taith gerdded er mwyn dysgu am greaduriaid y nos. Defnyddiodd y plant dechnoleg newydd sef golau biofflworoleuol er mwyn gweld bywyd natur y fel byddai creaduriaid y nos yn eu gweld. Gwnaeth y plant fwynhau’r daith gerdded o dan y sêr er mwyn dysgu am y sêr.  Cafodd y plant lawer o hwyl a sbri yn ystod y tridiau prysur – atgofion i’w drysori. / Year 5 pupils enjoyed a variety of activities during their visit to Yr Urdd Centre Pentre Ifan. They had the opportunity to take part in different workshops such as – a sustainable fashion workshop, a food miles workshop, a waste workshop and a meditation workshop. During the visit, the pupils completed a walking tour to learn about creatures of the night. The children used biofluorescent light technology light in order to see nature’s life as nocturnal creatures would see them. The children enjoyed the walk under the stars to learn about the stars. The children had a lot of fun and excitement during the busy three days – memories to treasure.

Eisteddfod Ysgol / School Eisteddfod

Gyda’r hyder i gymryd rhan mewn perfformiadau / Have the confidence to participate in performance

Unigolion iach, hyderus / Healthy, confident individuals

Am ddiwrnod yn dathlu bod yn Gymry ar Ddydd Gwyl Dewi. Mae plant Cam Cynnydd 3 wedi bod yn ymarfer ar gyfer Eisteddfod yr ysgol dros y pythefnos diwethaf a heddiw buont yn perfformio o flaen eu cyfoedion. Da iawn bob un ohonoch. Roedden nhw i gyd wedi mwynhau.

What a day celebrating being Welsh on St David’s Day. Progression Step 3 children have been practicing for the school Eisteddfod over the last two weeks and today they performed in front of their peers. Well done each and everyone of you. They all enjoyed.