Monthly Archives: October 2022

Gweithdai CISP / CISP Workshops

Dinasyddion moesol, gwybodus sy’n wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd, yn awr ac yn y gorffennol / Ethical, informed citizens who are knowledgeable about their culture, community, society and the world, now and in the past.

Y Dyniaethau a’r Celfyddydau Mynegiannol / Humanities and The Expressive arts.

Yn ddiweddar, rydym wedi cael cyfle i astudio digwyddiadau hanesyddol pwysig yn ein hardal leol. Gwnaeth y dosbarthiadau fwynhau dysgu am wahanol straeon megis – hanes Daniel James, hanes pwll glo Mynydd Newydd, hanes y rheilffordd o Benlan i Ddociau Abertawe, hanes Cwrs Rasys Penlan a hanes Ffair Llangyfelach. Fel rhan o’r astudiaethau hyn, yn ystod yr wythnos, cawsom gyfle i fynychu gweithdy gyda chwmni CISP, gyda’r nod o ddylunio sawl comic sy’n olrhain hanes y digwyddiadau hanesyddol pwysig yn yr ardal leol. Diolch i CISP am weithdy gwych! We have recently been studying important historical events in our local area. We have enjoyed learning about different stories such as – the history of Daniel James, the history of Mynydd Newydd Colliery, the history of the railway between Penlan and Swansea Docks, the history of Penlan Race Course and the history of Llangyfelach Fair. As a part of this study, we had the opportunity this week to take part in a workshop with CISP, with the aim of designing our own comics that outline the history of important events in the local area. We very much enjoyed designing panels for our comics. Thanks to CISP for a great workshop!

Marathon Llundain / London Marathon

Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd / Apply knowledge about the impact of diet and exercise on physical and mental health in their daily lives.

Iechyd a Lles / Health and Wellbeing

Buom yn holi cwestiynnau i Miss Laidlaw am ei phrofiad yn rhedeg Marathon Llundain. Dysgom am y bwyd yr oedd hi’n bwyta cyn y ras, yr hyfforddiant oedd yn rhaid iddi wneud ac y ras ei hun. Da iawn Miss Laidlaw! / We asked Miss Laidlaw questions about her experience running the London Marathon. We learned about the food she ate before the race, the training she had to do and the race itself. Well done Miss Laidlaw!

Gweithdy Taro / Percussion Workshop

Mynegi eu syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau gwahanol / Express ideas and emotions through different media.

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Daeth Stick 2 mewn heddiw i gynnal gweithdy offerynnau taro. Dysgom lawer am offerynnau gwahanol a chreu curaidau ein hun.

Stick 2 came in today to hold a percussion workshop with us. We learnt about all the different percussion instruments and created our own beats.