Monthly Archives: February 2024

Pencampwyr y Sir! Cwis Dim Clem /County Champions! ‘Dim Clem’ Quiz

Gosod safonau uchel i’w hunain, yn edrych am ac yn mwynhau her / set themselves high standards and seek and enjoy challenge

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog / Ambitious, capable learners

Bu tîm cwis yr ysgol yn cystadlu yn y cwis ‘Dim Clem’. Profodd y cwis eu gwybodaeth ar lawer o wahanol bynciau. Roedd yn rhaid iddynt ddatrys problemau mathemategol, rownd gwybodaeth gyffredinol a rownd daearyddiaeth. Roedd y rowndiau hyn i gyd yn seiliedig ar thema Cymru. Cystadlodd y tîm yn erbyn holl ysgolion Cymraeg Abertawe a daethant yn fuddugol. Maen nhw bellach wedi symud ymlaen i gynrychioli sir Abertawe yn y rownd nesaf. Camp wych.

The school’s quiz team competed in the ‘Dim Clem’ quiz. The quiz tested their knowledge on many different topics. They had to solve mathematical problems, a general knowledge round and a geography round. These rounds were all based on the theme of Wales. The team competed against all of the Welsh schools in Swansea and came out victorious. They have now moved forward to represent the county of Swansea in the next round. A fantastic achievement.

Dydd Miwsig Cymru 2024 / Welsh Language Music Day

Yn wybodus am eu diwylliant. . / Are knowledgeable about their culture.

Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus. / Ethical, informed citizens.

Bu Cam Cynnydd 3 yn dathlu Diwrnod Miwsig Cymru gan wrando ar gerddoriaeth Gymraeg a chreu posteri er mwyn hybu’r diwrnod. / Progression Step 3 celebrated Welsh Language Music Day by listening to a variety of Welsh music and creating posters to promote the day.