Monthly Archives: October 2023

Wythnos Gyrfaoedd / Careers week

Gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. / Can communicate effectively in different forms and settings, using both Welsh and English.

Dinasyddion moesol, gwybodus / Ethical, informed citizens

Am wythnos llawn cyffro, mae plant Cam Cynnydd 3 wedi elwa trwy gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl gyda swyddi a phroffesiynau gwahanol. Mae’r plant wedi dysgu beth sydd angen arnyn er mwyn llwyddo yn y byd gwaith a deall bod yna amrywiaeth eang o gyfleoedd gwahanol ar gael iddyn nhw.

A week full of excitement for the children of progression step 3, they have most definitely benefitted from meeting a variety of individuals from different jobs and professions. The children have learnt what it takes to succeed in the working world in a variety of jobs and there are plenty of options for them .

Wythnos Gyrfaoedd / Careers Week – Cardiff Devils

Gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. / Can communicate effectively in different forms and settings, using both Welsh and English.

Dysgwyr Uchelgeisiol, Galluog / Ambitious, Capable Learners

Cychwyn gwych i’n hwythnos gyrfaoedd yng Ngham Cynnydd 3. Cafodd y plant eu hysbrydoli yn ystod y cyflwyniad gwych gan y chwaraewyr proffesiynol o dîm hoci iâ’r Cardiff Devils. Cafodd y plant cyfle i wisgo’r cit a dysgu mwy am y chwaraewyr a’u rôl nhw o fewn y tîm yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Yn ystod yr ymweliad fe anogwyd y plant i weithio’n galed a manteisio ar bob cyfle.

A excellent start to our Careers Week in Progression Step 3. The children were inspired during the informative presentation by the professional players from the Cardiff Devils ice hockey team. The children had the opportunity to wear the kit and learn more about the players and their role within the team during the Q&A. Throughout the visit the children were encouraged to work hard and take advantage of every opportunity.

Amgueddfa Abertawe – Sioe Heliwr y Pili Pala / Swansea Museum – The Butterfly Hunter Show

Ymgymryd ymchwiliadau ac yn gwerthuso’n feirniadol yr hyn maen nhw’n ei ddarganfod ac yn barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau.

Undertake research and evaluate critically what they find and are ready to learn throughout their lives.

Dysgwyr Uchelgeisiol, Galluog / Ambitious, Capable Learners

Ar Ddydd Mercher aeth Cam Cynnydd 3 ar ymweliad i Theatr Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe. Cafodd y disgyblion gyfle i wylio’r sioe ‘Butterfly Hunter’ er mwyn dysgu am fywyd Alfred Russel Wallace. Tra yn yr Amgueddfa, cafodd y disgyblion gyfle gwych i archwilio gwahanol fathau o ffosilau ac esgyrn. Yna y cyfle  i fod yn feddylwyr beirniadol drwy benderfynu a oedd casglu’r holl wahanol fathau o rywogaethau at ddibenion gwyddonol yn gywir neu beidio.

On Wednesday Progression Step 3 went on a school visit to the Dylan Thomas Theatre and the Swansea museum. The pupils had the opportunity to watch the show ‘Butterfly Hunter’ to learn about the life of Alfred Russel Wallace. Whilst at the museum the children had the wonderful opportunity to explore different types of fossils and bones. They then had the opportunity to be critical thinkers by deciding whether it was right to have collected all these different types of species for scientific purposes.

Diwrnod Cwpan y Byd / Rugby World Cup Day

Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i greu rhywbeth newydd / Using my skills and knowledge to create something new

Gwneud y gorau o bob cyfle / Making the most of every opportunity

Cyfleu fy syniadau mewn gwahanol ffyrdd / Convey my ideas in different ways

Dinasyddion moesol, gwybodus / Ethical, informed citizens

Am ddiwrnod llawn gweithgareddau hwylus. Cafodd blant Cam Cynnydd 3 hwyl a sbri yn ystod ein diwrnod dathlu Cwpan y Byd. Ymwelwyd â gwahanol ddosbarthiadau lle cawsant goginio pitsas, dysgu’r Haka, creu origami, dysgu Ffrangeg a datblygu eu dealltwriaeth o’r gystadleuaeth a’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn y twrnamaint.

What a fun packed day. Progression Step 3 had lots of fun during our Rugby World Cup celebration day. The children visited different classes where they cooked pizzas, learnt the Haka, created origami, learnt French and learnt more about the countries that are taking part in the tournament.

Sesiwn ‘Pure Football’ / ‘Pure Football’ session.

Yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd. / Apply knowledge about the impact of diet and exercise on physical and mental health in their daily lives.

Unigolion iach, hyderus / Healthy, confident individuals.

Gwnaeth plant blwyddyn 4 a 5 gael cyfle i gael sesiwn pêl-droed gyda chwmni ‘Pure Football.’ Cafodd y plant gyfle i ddatblygu sgiliau pêl-droed allweddol yn y sesiwn yma. Sgiliau megis – sgiliau pêl a sgiliau cydweithio. Mwynheodd y plant fireinio’r sgiliau holl allweddol yma. / Year 4 and 5 children had the opportunity to have a football session with the company ‘Pure Football.’ The children got to develop key football skills, such as – ball skills and collaboration skills. The children enjoyed honing the key football skills.