Category Archives: News

Wythnos Ysbrydoli

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Cysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion / connect and apply their knowledge and skills to create ideas and products.

Rydym wedi dechrau ein thema newydd drwy greu darn o gelf yn seiliedig ar y Deyrnas Rewllyd. Defnyddiom baent er mwyn creu cefndir lliwgar ar gyfer eirth gwyn. Buom hefyd yn ymchwilio ffeithiau am Y Deyrnas Rewllyd / We have started our new theme by creating a piece of artwork based on the Frozen Kingdom. We used paint to create a colourful background for the polar bears. We also researched interesting facts about The Frozen Kingdom

Call of The Wild

Wynebu ac yn goresgyn heriau / Take measured decisions about lifestyle and manage risk.

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Mae blwyddyn 6 wedi cael amser arbennig gyda Call of The Wild yr wythnos yma ac wedi cael nifer o brofiadau drwy weithgareddau gwahanol / Year 6 have had an excellent week with Call Of The Wild. They’ve had many experiences through different activites.

Bore Sgiliau Bryn Tawe / Skills Morning

Adeiladu sylfaen o wybodaeth ac yn meddu’r sgiliau i gysylltu a chymhwyso’r wybodaeth honno o fewn testunau gwahanol. / Are building up a body of knowledge and have the skills to connect and apply that knowledge in different contexts

Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu / Science and Technology and Languages, Literacy and Communication

Cafodd Blwyddyn 6 ddiwrnod hwylus yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe. Cafom y cyfle i arbrofi gyda gwahanol fetalau a deunyddiau yng Ngwyddoniaeth a dysgu Ffrangeg.

Year 6 had a wonderful time at Bryn Tawe. We had the opportunity to take part in different experiments involving metals and learnt French.

Protecting our Planet Day / Diwrnod Diogelu ein Byd

Yn dangos eu hymrwymiad i gynaladwyaeth y blaned ac yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.​/ Show their commitment to the sustainability of the planet and are ready to be citizens of Wales and the world.​

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Tachwedd 10fed / November 10th

Ar Ddiwrnod Diogelu Ein Planed (POP22) fe ddysgon ni sut rydym ni yn gallu helpu i ddiogelu ein planed. Trwy gyswllt byw gan arbenigwyr ac arwyr hinsawdd cudd o bob cwr o’r byd ac yma yn y DU fe wnaethom ddatblygu ein dealltwriaeth o heriau newid hinsawdd. Ymunon ni â dros 45,000 o bobl ifanc eraill ar gyfer POP22 i ddysgu sut rydym ni yn gallu helpu hyrwyddo dyfodol mwy cynaliadwy. / On Protecting our Planet Day (POP22) we learnt about the many ways that we can help protect our planet. Through live link ups from experts and hidden climate heroes from around the world and here in the UK we developed our understanding of the challenges of climate change. We joined over 45,000 other young people for POP22 to learn how we can play a part in a more sustainable future.

Gweithdai CISP / CISP Workshops

Dinasyddion moesol, gwybodus sy’n wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd, yn awr ac yn y gorffennol / Ethical, informed citizens who are knowledgeable about their culture, community, society and the world, now and in the past.

Y Dyniaethau a’r Celfyddydau Mynegiannol / Humanities and The Expressive arts.

Yn ddiweddar, rydym wedi cael cyfle i astudio digwyddiadau hanesyddol pwysig yn ein hardal leol. Gwnaeth y dosbarthiadau fwynhau dysgu am wahanol straeon megis – hanes Daniel James, hanes pwll glo Mynydd Newydd, hanes y rheilffordd o Benlan i Ddociau Abertawe, hanes Cwrs Rasys Penlan a hanes Ffair Llangyfelach. Fel rhan o’r astudiaethau hyn, yn ystod yr wythnos, cawsom gyfle i fynychu gweithdy gyda chwmni CISP, gyda’r nod o ddylunio sawl comic sy’n olrhain hanes y digwyddiadau hanesyddol pwysig yn yr ardal leol. Diolch i CISP am weithdy gwych! We have recently been studying important historical events in our local area. We have enjoyed learning about different stories such as – the history of Daniel James, the history of Mynydd Newydd Colliery, the history of the railway between Penlan and Swansea Docks, the history of Penlan Race Course and the history of Llangyfelach Fair. As a part of this study, we had the opportunity this week to take part in a workshop with CISP, with the aim of designing our own comics that outline the history of important events in the local area. We very much enjoyed designing panels for our comics. Thanks to CISP for a great workshop!

Marathon Llundain / London Marathon

Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd / Apply knowledge about the impact of diet and exercise on physical and mental health in their daily lives.

Iechyd a Lles / Health and Wellbeing

Buom yn holi cwestiynnau i Miss Laidlaw am ei phrofiad yn rhedeg Marathon Llundain. Dysgom am y bwyd yr oedd hi’n bwyta cyn y ras, yr hyfforddiant oedd yn rhaid iddi wneud ac y ras ei hun. Da iawn Miss Laidlaw! / We asked Miss Laidlaw questions about her experience running the London Marathon. We learned about the food she ate before the race, the training she had to do and the race itself. Well done Miss Laidlaw!

Gweithdy Taro / Percussion Workshop

Mynegi eu syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau gwahanol / Express ideas and emotions through different media.

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Daeth Stick 2 mewn heddiw i gynnal gweithdy offerynnau taro. Dysgom lawer am offerynnau gwahanol a chreu curaidau ein hun.

Stick 2 came in today to hold a percussion workshop with us. We learnt about all the different percussion instruments and created our own beats.

Gwyddoniaeth

Yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd, yn awr ac yn y gorffennol.

Are knowledgeable about their culture, community, society and the world, now and in the past.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Daeth y gwyddonydd Mr Pugh mewn i siarad gyda ni am hanes y pyllau glo tanwydd ffosil a grymoedd. Dysgon ni sut mae glo yn cael ei greu a’r gwahanol ddefnydd i danwydd ffosil.

The scientist Mr Pugh came in to talk to us about the history of the coal mines, fossil fuels and forces. We learned how coal is created and the different uses for fossil fuels.

Llais Y Plant

Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd.

Apply knowledge about the impact of diet and exercise on physical and mental health in their daily lives.

Iechyd a Lles / Health and Wellbeing

Rydym wedi bod yn ymchwilio Marathon Llundain ac wedi dewis coginio flapjacks a smwddis iachus ar gyfer rhedwyr y marathon. Dyma ni wrthi yn dysgu sgiliau torri, coginio a glanhau.

We have been researching the London Marathon and have chosen to cook flapjacks and healthy smoothies for the marathon runners. Here we are learning cutting, cooking and cleaning skills.