All posts by Luke S

Cystadleuaeth Athletau / Athletics Tournament

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol / Taking part in a physical activity

Unigolio iach, hyderus / Healthy and confident individuals

Roedd plant blynyddoedd 4, 5 a 6 wedi cystadlu yn nhwrnamaint athletau ysgolion Cymraeg Abertawe, roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus iawn i’r plant a ddaeth yn drydydd! Arbennig i weld cymaint o ddisgyblion yn cystadlu mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau gwahanol.

Children from years 4, 5 and 6 competed in the Swansea Welsh schools athletics tournament. A very succesful day indeed with the children coming 3rd out of all the schools that competed. Amazing to see so many children taking part in a wide variety of competitions.

Gweithgareddau D-Day / D-Day activities.

Yn wybodus am eu diwylliant. . / Are knowledgeable about their culture.

Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus. / Ethical, informed citizens.

Roedd Cam Cynnydd 3 wedi cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau i gofio D-day. Dysgon nhw ychydig am hanes D-day a phwysigrwydd y diwrnod yn ystod yr Ail Ryfel byd, roedd y gweithgareddau yn amrywio fel dylunio medal i’r milwyr , creu silhouette filwr ar y diwrnod a thasgau darllen a deall.

Progression step 3 took part in a variety of activities to remember on D-day. They learnt about the history of D-day and how important the day was in relation to the Second World War. The activities varied from designing a medal for the soldiers to creating a silhouette of the solider during D-day and reading comprehension tasks.

Arbrofi gyda micro:bit / Experimenting with micro:bits

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog / Ambitious, capable learners

Defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu,darganfod a dadansoddi gwybodaeth. / Use digital technologies creatively to communicate, find and analyse information.

Mae disgyblion Cam Cynnydd 3 wedi mwynhau arbrofi gyda micro:bits yr wythnos hon. Mae’r micro:bit yn gyfrifiadur maint poced sydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli meddwl creadigol mewn plant. Gellir ei raglennu mewn llawer o wahanol ffyrdd ac mae ganddo sawl defnydd. Trwy’r micro:bit, mae plant yn cael eu hannog i archwilio syniadau gan ddefnyddio cod go iawn. / The pupils in Progression Step 3 have enjoyed experimenting with micro:bits this week. The micro:bit is a pocket-sized computer designed to inspire creative thinking in children. It can be programmed in many different ways and has multiple uses. Through the micro:bit, children are encouraged to explore ideas using real code.

Ffair Haf / Summer fete

Yn wybodus am eu diwylliant. . / Are knowledgeable about their culture.

Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus. / Ethical, informed citizens.

Mae Cam Cynnydd 3 wedi mwynhau creu adnoddau gwahanol megis llyfrnod gyda bwlb LED neu keyring ar gyfer y ffair haf. Roedd y plant wedi creu’r cynnyrch yma ei hun yn ystod yr wythnos, roedd athrawon Cam Cynnydd 3 wedi gwerthu ‘r cynnyrch i’r plant yn ystod y ffair haf er mwyn codi arian i’r ysgol.

Progression step 3 have enjoyed creating different objects such as bookmarks with LED lights and keyrings for the school summer fete. The children created the products this week during lessons which allowed the teachers to then sell the products during the fete to raise money towards the shcool.

Wythnos Lles / Wellbeing Week

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol / Take part in physical activity.

This image has an empty alt attribute; its file name is iechyd-a-lles.png

Unigolion iach, hyderus / Healthy, confident individuals

Gwnaeth disgyblion cam cynnydd 3 fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn ystod ein hwythnos iechyd a lles. Gwnaethon nhw gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol megis – gweithdy cymorth cyntaf, gweithdy hiliaeth, sesiwn ymarferol o Jiu-Jitsu, sesiwn ymarferol gyda’r Gweilch, rhedeg milltir y dydd, sesiynau ioga, sesiynau meddylgarwch, plannu coed, therapi celf, gwylio ffilm am deimladau a gwneud smwddis iachus. Cafodd y plant llawer o hwyl a sbri wrth ddysgu pethau newydd.

The pupils in progression step 3 have enjoyed a variety of activities this week during out health and wellbeing week. They have had the opportunity to take part in a variety of activities such as – a first aid workshop, racism workshop, practical Jui-Jitsu session, practical session with the Ospreys, running a mile a day, yoga sessions, mindfulness sessions, art therapy, planting trees, watching a film about feelings and making healthy smoothies. The pupils  have had a lot of fun learning new things.

Gwasanaeth Nadolig / Christmas Service

Cyfranwyr Mentrus, Creadigol / Enterprising, Creative Contributors

Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i greu rhywbeth newydd. / Use my knowledge and skills to create something new.​

Ar ôl cyfnod byr o ymarfer mae disgyblion Cam Cynnydd 3 wedi perfformio yng ngwasanaeth Nadolig trwy ganu carolau ac adrodd ychydig am y Nadolig. / After a brief period of practice the pupils of progression step 3 performed a Christmas service by singing carols and reciting about Christmas.

Wythnos Gyrfaoedd / Careers week

Gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. / Can communicate effectively in different forms and settings, using both Welsh and English.

Dinasyddion moesol, gwybodus / Ethical, informed citizens

Am wythnos llawn cyffro, mae plant Cam Cynnydd 3 wedi elwa trwy gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl gyda swyddi a phroffesiynau gwahanol. Mae’r plant wedi dysgu beth sydd angen arnyn er mwyn llwyddo yn y byd gwaith a deall bod yna amrywiaeth eang o gyfleoedd gwahanol ar gael iddyn nhw.

A week full of excitement for the children of progression step 3, they have most definitely benefitted from meeting a variety of individuals from different jobs and professions. The children have learnt what it takes to succeed in the working world in a variety of jobs and there are plenty of options for them .

Go Explore!

Dysgu am y byd o fy nghwmpas (diwylliant, cymuned, a chymdeithas) nawr ac yn y gorffennol.

Learning about the world around me, (Culture, community and society) now and in the past.

Dinesydd Egwyddorol Gwybodys / Global citizen

Yr wythnos hon mae Cam cynnydd 3 wedi bod yn gweithio gyda Go Explore i ddeall sut mae creaduriaid yn dibynnu ar ei gilydd o fewn cadwyni bwyd gwahanol. Rydym hefyd wedi dysgu sut effaith rydym ni yn gallu cael ar y cadwyni bwyd a chynefinoedd y creaduriaid yma. Cafodd y plant gyfle hefyd i drin a dosbarthu dail gwahanol a cheisio labeli o ba goed daeth y dail penodol.

This week Progression step 3 have worked with Go Explore to understand how different creatures rely on one another within different food webs. We have also learnt about the effect that humans have on these food webs and on their habitats. We also had the opportunity to discuss and sort different leaves and try and identify from which tree these leaves have originated from.

Gweithdy Iaith Miliwn o siaradwyr Cymraeg

Disgyblion uchelgeisiol a galluog

Siarad am yr hyn rwy’n ei wybod yn Gymraeg / Speaking about the things i know through Welsh.

Dyma luniau o’r plant yn cymryd tro i ddatblygu eu sgiliau llafar yn y ffair iaith wythnos hon. Diwrnod buddiol iawn i bawb yn CC3. / Here are some photos of the children taking part to develop their welsh oral skills in the language fair this week. A beneficial week for all in progression step 3.

Adam Yr Ardd

Dinasyddion Egwyddorol gwybodus

Gofalu am yr amgylchedd. / Caring for the environment.

Bu disgyblion Cam Cynnydd 3 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ymwneud a garddio gydag Adam yr Ardd. Profiad arbennig o greu bomiau hadau blodau gwyllt.

Pupils had the opportunity to take part in a variety of gardening related activities with Adam yr Ardd including creating wildflower seed bombs.