All posts by Nia J

Sioe Nadolig

 

Yn gyrfanwyr mentrus cradigol – sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.

Enterprising creative contributors – ready to play a full part in life and work

Y Celfyddydau Mynegiannol

Expressive arts

Dros yr wythnos diwethaf mae’r plant wedi bod yn brysur yn dysgu ei geiriau ar gyfer darllen a chanu ar gyfer sioe.

Bu rhai hefyd yn hyderus yn rhoi cynnig ar golygu’r fideos ar i movie gyda chymorth yr athrawon.

Gobeithio mwynhewch y sioe ar lein.

 

……………………………………………………………………………………………………

Over the past week the children have been busy learning their words for reciting and singing for the christmas show

 Some also assisted with the editing of the videos on  I movie.

We hope you enjoy our virtual online.

 


Wythnos Gwyddoniaeth

 

Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion

 Enterprising, creative contributors who Relate and apply their knowledge and skills to create ideas and products

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Science and Technology 

 

Yr wythnos diwethaf bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn brysur yn dysgu am wrthiant aer a disgyrchiant. Bu’r disgyblion yn creu adnoddau yn y dosbarth er mwyn  arbrofi pa siapiau a defnydd oedd yn achosi’r mwyaf a lleiaf o wrthiant aer a disgyrchiant.

Fe aeth y plant ymlaen wedyn i ddylunio a chreu parasiwt ei hunan wrth adfyfyrio ar waith blaenorol.

Yn olaf fe gafodd y plant cyfle i greu arbrawf teg i weld pa barasiwt oedd y gorau o ran arwynebedd a defnydd.

…………………………………………………………………………………………………………………………………….

Last week, year 5 and 6 pupils were busy learning about air resistance and gravity. The pupils created resources in the classroom to experiment to discover which shapes and materials caused the most and least air resistance and gravity.

The children then went on to design and create their own parachutes while reflecting on previous work.

Finally the children had the opportunity to conduct a experiment  to see which parachute was best.

 

                                                                    

Diwrnod y Cofio/ Remembrance Day

Yn gyfranwyr mentrus creadigol sydd yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion

Enterprising, creative contributors who Relate and apply their knowledge and skills to create ideas and products

 Dyniaethau

Humanities

 Yr wythnos yma bu’r ysgol yn dathlu Diwrnod y Cofio. Yn ystod y diwrnod yma bu plant Blwyddyn 5 a 6 yn tynnu lluniau i adlewyrchu diwrnod olaf Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ogystal buon nhw yn astudio medalu cyn filwr cyn cael cyfle i lunio’r medalau ei hunan.

This week the school celebrated Remembrance day. During this day children in Years 5 and 6 drew pictures to reflect the last day of the First World War. They also studied the medals of a veteran before being given the chance to design their own medals.

 

                          

Ymwybyddiaeth Spina Bifida/ Spina Bifida Awareness

 

Parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas;

Respect the needs and rights of others, as a member of a diverse society;

Iechyd a Lles / Health and Wellbeing

Mae mis Hydref yn fis ymwybyddiaeth Spina Bifida. Felly, mae blwyddyn 5 wedi bod yn dysgu am Spina Bifida er mwyn dysgu sut i helpu eraill yn yr ysgol.

Bu’r plant yn ymchwilio yn fwy i fewn i Spina Bifida ar ôl cael cyflwyniad  gan yr elusen ‘Shine’ er mwyn adnabod beth gelli’r i wneud i helpu’r plant o’i amgylch sydd gyda Spina Bifida.

October is Spina Bifida awareness month. Year 5 have been learning about Spina Bifida in order to learn how to support others in school who have it.

The children explored more about Spina Bifida after being given a presentation to Spina Bifida by the charity ‘Shine’ to identify what you can do to help the children around you that have Spina Bifida

.