Category Archives: News

Gwers Entrepreneuriaeth / Entrepreneurship Lesson

Cyfathrebu’n dda / Converse well

Defnyddio’r hyn rwy’n ei ddysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd / Use what I’ve learnt in various situations

Siarad am yr hyn rwy’n ei wybod yn Gymraeg / Talk about what I know in Welsh

Defnyddio rhifau mewn gwahanol sefyllfaoedd / Use numbers in different situations

Trawsgwricwlaidd / Cross-Curricular

Fel rhan o wythnos bwyta’n iach a’n gwers entrepreneuriaeth, mae blwyddyn 3 wedi bod yn brysur yn creu bwydydd blasus, iachus i’w gilydd am 50c yr un. Bydd yr elw yn mynd i elusen sy’n helpu anifeiliaid sydd wedi’u heffeithio gan lygredd y môr.

As part of healthy eating week and our entrepreneurship lesson, year 3 have been busy creating tasty, healthy treats for each other for 50p each. The profit will be going to a charity that helps animals affected by sea pollution.

Mesur tymheredd/ Measuring temperature

Deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol

Understand how to interpret data and apply mathematical concepts

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Yn ystod yr wythnos rydym wedi bod yn mesur y tymheredd bob dydd. Mae wedi bod yn wythnos grasboeth! Gwnaethom gymharu bob dydd a darganfod y poethaf. Gwnaeth pawb weithio mewn tim a chyfrannu.

During the week we measured the temperature. It has been scorching hot! We compared every day and discovered the warmest day. We all worked as a team and contributed to the task.

Wythnos Bwyta’n Iach / Healthy Eating Week

Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd.

Apply knowledge about the impact of diet on physical and mental health in their daily lives.

Iechyd a Lles/ Health and Well-being

Rydyn ni ym Mlwyddyn 1 wedi bod yn dathlu Wythnos Bwyta’n Iach. Penderfynom greu frechdan neu byrbryd iachus ar gyfer ein trip i’r traeth. Cawsom gyfle i flasu bara amrywiol, caws, ham, tomato, ciwcymbr a moron. Blasus iawn!

We in Year 1 have been celebrating Healthy Eating Week. We decided to create a healthy sandwich or snack for our trip to the beach. We tasted various bread, cheese, ham, tomato, cucumber and carrots. Very tasty!

Cornel Chwarae Rôl / Role-Play Corner

Mae gen i syniadau da ac rwy’n medru eu defnyddio mewn modd effeithiol / I have good ideas and I can use them effectively

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Disgyblion blwyddyn 2 yn mwynhau helpu addurno ein cornel chwarae rôl yn y dosbarth!

Our year 2 pupils enjoying themselves as they help decorate the role-play corner!

Mynegi barn / Expressing opinions

Defnyddio gwybodaeth i helpu dod i farn. / Use information to help form a judgement.

Deall bod fy marn yn bwysig. / Understand that my opinion is important.

Rhannu fy marn gydag eraill. / Share my opinion with others.

Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Mwynhaodd disgyblion Blwyddyn 2 Mr Hutchings mynegi barn am ddatganiadau o dan y môr. Trafodom sefyllfaoedd dynol a naturiol mae creaduriaid y môr yn delio gydag yn eu cynefinoedd.

Mr Hutchings’ Year 2 pupils enjoyed expressing opinions about statements under the sea. We discussed man made and natural situations that sea creatures deal with in their habitats.

Beth ydw i? / What am I?

Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i gwblhau tasgau / Use my knowledge and skills to complete tasks

Fod yn ymholgar a mwynhau datrys problemau / Be inquisitive and enjoy solving problems

Cyfathrebu yn dda / Converse well

Gofyn cwestiynau er mwyn datrys problemau / Ask questions to solve problems

Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Mwynhaodd dosbarth blwyddyn 3 Mrs Davies gydweithio i ddarganfod ffeithiau am wahanol greaduruiaid y môr. Roedd gan bob disgybl gerdyn gwybodaeth lle roedd yn rhaid iddynt baru’r wybodaeth gyda disgybl arall yn y dosbarth. Helpodd hyn i ddatblygu eu patrymau iaith.

Mrs Davies’ year 3 class enjoyed collaborating to discover facts about various sea creatures. Each pupil had an information card where they had to pair the information with another pupil in the class. This helped develop their language patterns.

Llygredd y Môr / Sea Pollution

Defnyddio fy ngwerthoedd i wneud penderfyniadau doeth / Use my values to make sensible decisions

Dysgu am y byd o fy nghwmpas nawr ac yn y dyfodol / Learn about the world around me now and in the future

Gofalu am ein byd / Look after our world

Gwybod bod pethau da a drwg yn y byd / Know that there are good and bad things in the world

Gofalu am yr amgylchedd / Look after the environment

Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Fel rhan o’n gwers athroniaeth i blant, mae blwyddyn 3 wedi bod yn edrych ar luniau o lygredd y môr ac yn trafod pwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel i’r môr. Buont yn edrych ar gwestiynau athronyddol ac yn trafod yr hyn a deimlent am y lluniau a thrafod amrywiol ansoddeiriau i ddisgrifio’r lluniau. Penderfynodd pawb pa mor bwysig oedd gofalu am y byd ac maent wedi penderfynu ysgrifennu stori i ddisgyblion iau ar bwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel yn y môr.

As part of our p4c lesson, year 3 have been looking at pictures of sea pollution and discussing the importance of not throwing rubbish into the sea. They looked at philosophical questions and discussed what they felt about the pictures and discussed various adjectives to describe the pictures. All decided how important it was to look after the world and have decided to write a story for younger pupils on the importance of not throwing rubbish in the sea.

Gardd Heddychlon / Peaceful Garden

Gweithio fel rhan o dîm / Work as part of a team

Dangos fy syniadau a’n emosiynau drwy wahanol gyfyngau / Show my ideas and emotions through different genres

Mae gen i syniadau da ac rwy’n medru eu defnyddio mewn modd effeithiol / I have good ideas and I can use them effectively

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Fel rhan o’u sesiynau Jigsaw, mae blwyddyn 3 wedi bod yn trafod heriau a sut maen nhw’n effeithio ar bobl yn wahanol. Buom yn trafod heriau y maent yn eu hwynebu yn yr ysgol a’r hyn yr hoffent ei wneud pan fyddant yn wynebu heriau. Fe wnaethant gydweithio i ddylunio gardd heddychlon gyda gwahanol fannau lle gallai rhywun fynd pe byddent yn teimlo eu bod yn cael eu herio.

As part of our Jigsaw sessions, year 3 have been discussing challenges and how they affect people differently. We discussed challenges that they face at school and what they’d like to do when faced with challenges. They cooperated to design a peaceful garden with various areas where someone could go if they felt challenged.

Sesiwn Maths Actif

Holi a datrys problemau/ Are able to question and solve problems

Mathemateg a Rhifedd/ Mathematics and Numeracy

Dyma blant Blwyddyn 1 yn mwynhau sesiwn Maths Actif yn yr haul. Yn y dasg gynhesu, roedd rhaid trefnu rhifau hyd at 30. Bu rhaid trafod a chydweithio er mwyn cwblhau y dasg. Aethpwyd ati wedyn i drefnu dyddiadau penodol. Roedd rhaid edrych ar y mis a’r dyddiad rhifol er mwyn trefnu yn gywir.

Here are Year 1 children enjoying their Maths Active session in the sun. In the warm up task they had to organise the numbers to 30. They had to use questioning and cooperative skills in order to solve the task. The children moved on to look at organising specific dates and using their knowledge of the months of the year and numbers to put them in order.