All posts by ClareDavies

Gwyddoniaeth Gwyllt / Mad Science

Defnyddio gwybodaeth a sgiliau i greu rhywbeth newydd / Using knowledge and skills to create new things

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Diolch yn fawr iawn i Rhys o Wyddoniaeth Gwyllt am ddod i mewn i ysbrydoli holl ddisgyblion CC2 ar gyfer ein thema. Dysgon nhw am adweithiau cemegol sydd wedi eu hysbrydoli i greu diod hud eu hunain.

A big thank you to Rhys from Mad Science for coming in to inspire all the pupils in PS2 for our theme. They learnt about chemical reactions which has inspired them to create their own potions.

Creu Sain / Creating Sound

Defnyddio fy sgiliau i greu rhywbeth newydd / Use my skills to create something new

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Mae dosbarth Blwyddyn 3 Mrs Davies wedi mwynhau arbrofi gydag offerynnau cerdd yn fawr iawn heddiw. Buont yn trafod sut mae sain yn cael ei gynhyrchu a bod sain yn dirgrynu er mwyn i ni ei glywed. Fe wnaethon nhw greu eu band taro bach eu hunain hefyd.

Mrs Davies’ Year 3 class have thoroughly enjoyed experimenting with musical instruments today. They discussed how sound was produced and that sound vibrates in order for us to hear it. They also created their own little percussion band.

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Dangos fy syniadau a’n emosiynau drwy wahanol gyfyngau / Show my ideas and our emotions through different intervals

Mae gen i syniadau da ac rwy’n medru eu defnyddio mewn modd effeithiol / I have good ideas and I can use them effectively

Trawsgwricwlaidd / Cross-Curricular

Mae dosbarth Blwyddyn 3 Mrs Davies wedi mwynhau edrych ar lyfrau gwahanol i’w hysbrydoli ar gyfer eu thema nesaf. Maen nhw’n edrych ymlaen at greu eu swynion eu hunain! Maen nhw wedi trafod beth maen nhw’n ei wybod yn barod a beth hoffen nhw ei wybod. Fe wnaethon nhw fwynhau gwylio Harry Potter sydd wedi eu hysbrydoli i greu eu gwrachod a’u dewiniaid eu hunain ar gyfer eu hysgrifennu creadigol.

Mrs Davies’ Year 3 class have enjoyed looking at various potion and scientific books to inspire them for their next theme. They’re looking forward to creating their own spells! They’ve discussed what they already know and what they’d like to know. They enjoyed watching Harry Potter which has inspired them to create their own witches and wizards for their creative writing.

Taith Nadolig / Christmas Trip

Gweithio ac yn chwarae mewn tîm / Work and play as a team

Trawsgwricwlaidd / Cross-Curricular

Mwynhaodd yr holl ddisgyblion eu hamser yng Nghanolfan Dreftadaeth Gwyr lle buont yn ymweld â Sion Corn, yn cymryd rhan mewn helfa corrachod, yn creu addurn coeden a bwyd ar gyfer Rwdolff, yn gweld ffilm theatraidd o Sion Corn yng Ngwlad Hud ac yn cymryd rhan mewn ras hwyaid. Cafwyd amser da gan bawb!

All pupils enjoyed their time at the Gower Heritage Centre where they visited Santa, took part in an elf hunt, created a tree ornament and food for Rudolph, saw a theatrical film of Santa in Wonderland and took part in a duck race. A good time was had by all!

Diwrnod Siwmper Nadolig / Christmas Jumper Day

Dysgu am y byd o fy nghwmpas / Learn about the world around me

Gofalu am ein byd / Take care of our world

Ceisio helpu eraill / Help others

Dyniaethau / Humanities

Mor wych oedd gweld y plant i gyd yn eu siwmperi Nadolig. Dysgon nhw ein bod ni’n eu gwisgo i gefnogi’r elusen Save the Children.

How wonderful it was to see all the children in their Christmas jumpers. They learnt that we wear them to support the charity Save the Children.

Dargludydd neu Ynysydd? / Conductor or Insulator?

Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i gwblhau tasgau / Use my knowledge and skills to complete tasks

Fod yn ymholgar a mwynhau datrys problemau / Be inquisitive and enjoy solving problems

Gofyn cwestiynau / Ask questions

Egluro’r hyn rwyf wedi ei dysgu / Explain what I’ve learnt

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Mwynhaodd Blwyddyn 3 eu harbrawf Gwyddoniaeth lle buont yn profi gwahanol ddeunyddiau i weld pa rai oedd yn ddargludyddion a pha rai oedd yn ynysyddion. Roedd rhagfynegiadau’r disgyblion yn gywir a gwelsant mai’r defnyddiau metel oedd yn arwain y trydan i oleuo’r bwlb.

Year 3 enjoyed their Science experiment where they tested various materials to see which were conductors and which were insulators. The pupils predictions were correct and they saw that it was the metal materials that conducted the electricity to light the bulb.

Creu Cardiau / Creating Cards

Defnyddio fy sgiliau i greu rhywbeth newydd / Use my skills to create new things

Gwneud y gorau o bob cyfle / Make the most of every opportunity

Rwy’n helpu eraill / Help others

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Mae dosbarth blwyddyn 3 Mrs Davies wedi bod yn brysur yn datblygu eu sgiliau i greu addurn 3D ar gyfer eu cerdyn. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Mrs Davies’ year 3 class have been busy developing their skills to create a 3D bauble for their cards. Merry Christmas and a Happy New Year!

Hwyl gyda ffrindiau / Enjoying with friends

Gwneud y gorau o bob cyfle / Make the most of every opportunity

Gweithio ac yn chwarae mewn tîm / Work and play as part of a team

Bod gyda ffrindiau / Being with friends

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Ar ôl ein hymweliad â llyfrgell Penlan, roeddem yn meddwl ei fod yn ormod o gyfle da i’w wastraffu, felly aethom a mwynhau yn y parc.

After our visit to Penlan library, we thought it was too much of a good opportunity to waste, therefore we went and enjoyed in the park.

Plant Mewn Angen / Children in Need

Ceisio helpu eraill / Try to help others

Trawsgwricwlaidd / Cross-curricular

Mae disgyblion CC2 wedi bod yn brysur heddiw yn cwblhau gwahanol dasgau Pudsey. Da iawn i bawb am wisgo smotiau a streipiau i godi arian at yr achos.

The pupils in PS2 have been busy today completing various Pudsey tasks. Well done to all for wearing spots and stripes to raise money for the cause.