Monthly Archives: December 2023

Taith Nadolig / Christmas Trip

Gweithio ac yn chwarae mewn tîm / Work and play as a team

Trawsgwricwlaidd / Cross-Curricular

Mwynhaodd yr holl ddisgyblion eu hamser yng Nghanolfan Dreftadaeth Gwyr lle buont yn ymweld â Sion Corn, yn cymryd rhan mewn helfa corrachod, yn creu addurn coeden a bwyd ar gyfer Rwdolff, yn gweld ffilm theatraidd o Sion Corn yng Ngwlad Hud ac yn cymryd rhan mewn ras hwyaid. Cafwyd amser da gan bawb!

All pupils enjoyed their time at the Gower Heritage Centre where they visited Santa, took part in an elf hunt, created a tree ornament and food for Rudolph, saw a theatrical film of Santa in Wonderland and took part in a duck race. A good time was had by all!

Diwrnod Siwmper Nadolig / Christmas Jumper Day

Dysgu am y byd o fy nghwmpas / Learn about the world around me

Gofalu am ein byd / Take care of our world

Ceisio helpu eraill / Help others

Dyniaethau / Humanities

Mor wych oedd gweld y plant i gyd yn eu siwmperi Nadolig. Dysgon nhw ein bod ni’n eu gwisgo i gefnogi’r elusen Save the Children.

How wonderful it was to see all the children in their Christmas jumpers. They learnt that we wear them to support the charity Save the Children.

Helfa Siapiau 2D/ 2D Shape Hunt

Medru arwain a chyfrannu i dîm mewn ffordd effeithiol a chyfrifol / Lead and play different roles in teams effectively and responsibly

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i fynd ar helfa Siapiau 2D. Gwnaethant ddarganfod siapiau amrywiol o amgylch yr ysgol.

Year 1 had the opportunity to go on a 2D shape hunt. They came across a number of different shapes around the school.

Edrych ar offer ysgol Oes Fictoria / Looking at school equipment in Victorian times

Adeiladu sylfaen o wybodaeth ac yn meddu’r sgiliau i gysylltu a chymhwyso’r wybodaeth honno o fewn testunau gwahanol / Building up a body of knowledge and have the skills to connect and apply that knowledge in different contexts

Dyniaethau / Humanities

Dyma Blwyddyn 1 yn cael cyfle i ddefnyddio offer ysgol o Oes Fictoria. Gwnaethant fwynhau cael y cyfle i chwarae gyda’r offer.

Year 1 had the opportunity to use school equipment from the Victorian times. They enjoyed playing with the items.

Dargludydd neu Ynysydd? / Conductor or Insulator?

Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i gwblhau tasgau / Use my knowledge and skills to complete tasks

Fod yn ymholgar a mwynhau datrys problemau / Be inquisitive and enjoy solving problems

Gofyn cwestiynau / Ask questions

Egluro’r hyn rwyf wedi ei dysgu / Explain what I’ve learnt

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Mwynhaodd Blwyddyn 3 eu harbrawf Gwyddoniaeth lle buont yn profi gwahanol ddeunyddiau i weld pa rai oedd yn ddargludyddion a pha rai oedd yn ynysyddion. Roedd rhagfynegiadau’r disgyblion yn gywir a gwelsant mai’r defnyddiau metel oedd yn arwain y trydan i oleuo’r bwlb.

Year 3 enjoyed their Science experiment where they tested various materials to see which were conductors and which were insulators. The pupils predictions were correct and they saw that it was the metal materials that conducted the electricity to light the bulb.

Creu Cardiau / Creating Cards

Defnyddio fy sgiliau i greu rhywbeth newydd / Use my skills to create new things

Gwneud y gorau o bob cyfle / Make the most of every opportunity

Rwy’n helpu eraill / Help others

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Mae dosbarth blwyddyn 3 Mrs Davies wedi bod yn brysur yn datblygu eu sgiliau i greu addurn 3D ar gyfer eu cerdyn. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Mrs Davies’ year 3 class have been busy developing their skills to create a 3D bauble for their cards. Merry Christmas and a Happy New Year!

Gwers Jigsaw / Jigsaw lesson

Ffurfio perthnasau cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiried a pharch at ei gilydd a goresgyn heriau.

Form positive relationships based upon trust and mutual respect and overcome challenge.

Dyma Blwyddyn 1 wedi bod yn trafod sut ydym yn debyg ac yn wahanol. Aethpwyd ati i drafod pwnc pwysig sef effeithiau bwlio.

Year 1 have been discussing how we are similar and different. We also discussed the important theme of bullying.

Creu carden Nadolig/ Creating a Christmas card

Connect and apply their knowlede and skills to create ideas and products.

Cysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion.

Celfyddydau Mynegiannol/ Expressive Arts

Dyma Blwyddyn 1 yn mynd ati i greu cardiau Nadolig. Dyma nhw’n meddwl am syniadau, yn cynllunio ac yn creu y garden.

Year 1 are creating their Christmas cards. They thought of ideas, planned and created the card.