Fel rhan o’n thema arwyr, wythnos diwethaf daeth nyrs yr ysgol i’n gweld i siarad am fod yn arwr yn y gymuned. Siaradodd am bwysigrwydd golchi dwylo a beth i’w wneud pan fyddwch yn teimlo’n sâl. Atgoffodd hi ni i gyd am fwyta’n iach a brwsio ein dannedd yn ddyddiol i helpu i gadw’n iach. Darllenodd y nyrs stori a ddefnyddiodd y plant sgiliau gwrando da iawn.
As part of our heroes theme, last week the school nurse came into see us to talk about being a hero in the community. She spoke about the importance of hand washing and what to do when feeling unwell. She reminded us all about healthy eating and brushing our teeth daily to help staying healthy. The nurse read a story which the children used very good listening skills.