Diwrnod e-ddiogelwch / E-safety day

 

Roedd yn ddiwrnod e-ddiogelwch wythnos diwethaf felly fe wnaethom gael stori am Smarti y pengwin e-ddiogelwch a thrafod pa mor bwysig ydy i ofyn ein hoedolion am help wrth chwarae ar-lein ac os rydym yn dod ar draws rhywbeth anghyfarwydd.
Trafodwn am ba declynnau rydym yn defnyddio yn yr ysgol ac yn ein cartrefi! Mae amrywiaeth fawr gyda ni yn yr ysgol ac adref.  Roedd y plant yn medru enwi sawl peth maent yn gallu defnyddio.  Mae’n syniad da defnyddio amserydd ar gyfer gwahanol apiau / gemau er mwyn helpu’r plant ddeall trosglwyddiadau.
 
It was e-safety day last week so we had a story about Smartie the e-safety penguin and discussed how important it is to ask our adults for help when playing online and if we come across something unfamiliar.
We discussed what gadgets we use at school and in our homes! We have a variety at school and at home. The children were able to name many devices that they use.   It is a good idea to use timers on different apps and games to help the children understand transitions.
Roeddem yn lwcus iawn i dderbyn ymweliad wrth Heini o griw Cyw wythnos ddiwethaf. Mae Heini yn gymeriad bywiog, heini ac yn llawn hwyl.  Gwisgodd pawb dillad pinc neu dillad ymarfer corff er mwyn cymryd rhan yn y sesiwn, cafodd pawb hwyl a sbri.  Roedd Heini yn canu caneuon Cymraeg ac yn dawnsio wrth wneud ymarfer corff gyda’r plant.  Siaradom am ba mor bwysig ydy i gadw’n heini.
Beth ydych chi wedi gwneud i gadw’n heini dros y penwythnos?
We were very lucky to receive a visit from Heini from the Cyw crew last week. Heini is a lively character, fit and full of fun. Everyone wore pink clothes or exercise clothes to take part in the session, everyone had fun. Heini sang Welsh songs and danced while exercising with the children. We talked about how important it is to keep fit.
What have you done to keep fit over the weekend?
Fel y gwyddoch ein thema’r tymor yma ydy Lliwiau Llachar felly rydym wedi bod yn arbrofi mewn gwahanol ffyrdd wrth gymysgu lliwiau.  Y tro yma roeddem wedi rhoi cynnig ar dyfu enfys trwy greu patrwm ar bapur tisw gegin a’i dal yn dwr. Roedd y plant wedi mwynhau gweld y dwr yn newid lliw yn dibynnu ar ba liwiau roedden wedi defnyddio i greu patrwm ar y tisw.
As you know our theme this season is Bright Colours, so we have been experimenting in different ways by mixing colours. This time we had tried growing a rainbow by creating a pattern on kitchen tissue paper and holding it in water. The children enjoyed seeing the water change colour depending on which colours they had used to create a pattern.
 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.