All posts by Megan M

Crempogau / Pancakes

Cafwyd plant y Derbyn amser gwych yn paratoia blasu crempogau cyn yr hanner tymor. Darllenom y stori Crempogau Mr Blaidd cyn dechrau. /
The Reception children enjoyed preparing and tasting pancakes before the half term holiday. We read Mr Wolfs pancakes before starting.

Diwrnod e-ddiogelwch / E-safety day

 

Roedd yn ddiwrnod e-ddiogelwch wythnos diwethaf felly fe wnaethom gael stori am Smarti y pengwin e-ddiogelwch a thrafod pa mor bwysig ydy i ofyn ein hoedolion am help wrth chwarae ar-lein ac os rydym yn dod ar draws rhywbeth anghyfarwydd.
Trafodwn am ba declynnau rydym yn defnyddio yn yr ysgol ac yn ein cartrefi! Mae amrywiaeth fawr gyda ni yn yr ysgol ac adref.  Roedd y plant yn medru enwi sawl peth maent yn gallu defnyddio.  Mae’n syniad da defnyddio amserydd ar gyfer gwahanol apiau / gemau er mwyn helpu’r plant ddeall trosglwyddiadau.
 
It was e-safety day last week so we had a story about Smartie the e-safety penguin and discussed how important it is to ask our adults for help when playing online and if we come across something unfamiliar.
We discussed what gadgets we use at school and in our homes! We have a variety at school and at home. The children were able to name many devices that they use.   It is a good idea to use timers on different apps and games to help the children understand transitions.
Roeddem yn lwcus iawn i dderbyn ymweliad wrth Heini o griw Cyw wythnos ddiwethaf. Mae Heini yn gymeriad bywiog, heini ac yn llawn hwyl.  Gwisgodd pawb dillad pinc neu dillad ymarfer corff er mwyn cymryd rhan yn y sesiwn, cafodd pawb hwyl a sbri.  Roedd Heini yn canu caneuon Cymraeg ac yn dawnsio wrth wneud ymarfer corff gyda’r plant.  Siaradom am ba mor bwysig ydy i gadw’n heini.
Beth ydych chi wedi gwneud i gadw’n heini dros y penwythnos?
We were very lucky to receive a visit from Heini from the Cyw crew last week. Heini is a lively character, fit and full of fun. Everyone wore pink clothes or exercise clothes to take part in the session, everyone had fun. Heini sang Welsh songs and danced while exercising with the children. We talked about how important it is to keep fit.
What have you done to keep fit over the weekend?
Fel y gwyddoch ein thema’r tymor yma ydy Lliwiau Llachar felly rydym wedi bod yn arbrofi mewn gwahanol ffyrdd wrth gymysgu lliwiau.  Y tro yma roeddem wedi rhoi cynnig ar dyfu enfys trwy greu patrwm ar bapur tisw gegin a’i dal yn dwr. Roedd y plant wedi mwynhau gweld y dwr yn newid lliw yn dibynnu ar ba liwiau roedden wedi defnyddio i greu patrwm ar y tisw.
As you know our theme this season is Bright Colours, so we have been experimenting in different ways by mixing colours. This time we had tried growing a rainbow by creating a pattern on kitchen tissue paper and holding it in water. The children enjoyed seeing the water change colour depending on which colours they had used to create a pattern.
 

Gweithgareddau Rhif

 

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n:
•gosod safonau uchel i’w hunain, yn edrych am ac yn mwynhau her;
•adeiladu sylfaen o wybodaeth ac yn meddu’r sgiliau i gysylltu a chymhwyso’r wybodaeth honno o fewn testunau gwahanol;
Ambitious, capable learners who:
•set themselves high standards and seek and enjoy challenge;
•are building up a body of knowledge and have the skills to connect and apply that knowledge in different contexts;
 
Mae’r plant wedi bod yn mwynhau trefnu rhifau a chyfri gwrthrychau fesul lliw gyda grŵp ac yn annibynnol. 
Gofynnwch i’ch plentyn cyfri hyd at 20 ac yn fwy ac yn ôl at 0 yn uhel.
Rydym yn ymarfer ffurfio rhifau ar fyrddau gwyn bach, gyda sialc, paent, pensiliau a llawer mwy er mwyn dod yn gyfarwydd gyda ffurfio a threfnu’r rhifau.

 
The children have been enjoying arranging numbers and counting objects by colour with a group and independently.
Ask your child to count up to 20 and above and back to 0 aloud.
We practice forming numbers on small whiteboards, with chalk, paint, pencils and much more in order to become familiar with forming and arranging the numbers.
Mae’r plant yn mwynhau ein sesiynau Tric a Chlic yn dysgu sut i adeiladu geiriau gyda gemau a darllen. Cofiwch mae nifer o fideos ar-lein ac apiau er mwyn hybu y darllen gyda’r plant, gwnewch y mwya ohonynt.
The children enjoy our Tric a Chlic sessions learning how to build words with games and reading.  Remember there are many Tric a Chlic videos online and apps available to develop the reading with the children, make the most of this material. 

Diwrnod Santes Dwynwen

 

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n: •gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg;
Ambitious, capable learners who: •can communicate effectively in different forms and settings, using both Welsh and English;
Fe wnaeth y plant i gyd creu cardiau er mwyn rhoi i rywun maent yn eu caru ar ôl cael stori Santes Dwynwen. Siaradom am y bobl maent yn caru yn eu bywydau. Mae’r plant yn mwynhau creu cardiau gyda pwrpas, cofiwch mae creu carden yn datblygu sawl sgil i’r plant yn y blynyddoedd cynnar. The children all created cards to give to someone they love after being told the story of Saint Dwynwen. We talked about the people they love in their lives. The children enjoy creating cards with a purpose, remember that creating a card develops many skills for the children in the early years.

Jigsaw

Unigolion iach, hyderus sy’n: •adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder,
cadernid ac empathi; Healthy, confident individuals who: •are building their mental and emotional well-being by developing confidence, resilience and empathy;
Rydym yn dilyn rhaglen o’r enw Jigsaw er mwyn cynnal sesiynau lles gyda’r plant yn wythnosol. Rydym wedi cyflwyno’r cymeriadau a dilyn y sesiynau am y bythefnos ddiwethaf. Gofynnwch i’ch plentyn am Jennie a Jerrie yn y dosbarth. Mae croeso iddynt gael cwtsh gyda nhw unrhyw bryd er mwyn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. We follow a program called Jigsaw in order to hold wellbeing sessions with the children on a weekly basis. We have introduced the characters and followed the sessions for the last two weeks. Ask your child about Jennie and Jerrie in class. They are welcome to have a hug with them at any time in order to feel safe and happy.

Blwyddyn Newydd Tseiniaidd

 

Dinasyddion moesol, gwybodus sy’n: •wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd, yn awr ac yn y gorffennol;
•parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas;
•yn dangos eu hymrwymiad i gynaladwyaeth y blaned ac yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.       Ethical, informed citizens who: •are knowledgeable about their culture, community, society and the world, now and in the past;
•respect the needs and rights of others, as a member of a diverse society;
•show their commitment to the sustainability of the planet and are ready to be citizens of Wales and the world.
Wythnos diwethaf roeddem wedi bod yn dysgu am sut mae pobl yn dathlu Blwyddyn Newydd Tseiniaidd. Roedd y plnt wedi mwynhau darllen y stori am yr anifeiliaid, creu llusernau papur ac yna mynd ati gyda gweithgareddau darllen a chyfateb lluniau ac arlunio.
Last week we had been learning about how people celebrate Chinese New Year. The children enjoyed reading the story about the animals, creating paper lanterns and then getting on with reading activities by matching pictures with words and drawing.

Siapiau 3d

 

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n: •gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg;
•gallu esbonio’r syniadau a’r cysyniadau maen nhw’n eu dysgu;
•yn gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau;
•deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol; //Ambitious, capable learners who: •can communicate effectively in different forms and settings, using both Welsh and English;
•can explain the ideas and concepts they are learning about;
•can use number effectively in different contexts;
•understand how to interpret data and apply mathematical concepts;
Am wythnos brysur, rydym wedi cael hwyl sbri yn dysgu am siapiau 3d dros y bythefnos ddiwethaf. Aethom ar helfa siapiau yn yr ardal allanol, stampio siapiau 3d i er mwyn creu siapiau 2d a rhannu’r siapiau 2d a 3d, edrych ar y gwahaniaethau rhwng y siapiau 2d a’r siapiau 3d. Tybed os gall eich plentyn dweud beth sydd yn wahanol? Fedrwn enwi rhai o’r siapiau gwahanol? (ciwb, ciwboid, sffêr, pyramid, silindr) Edrychwch o amgylch y tŷ i weld os oes gennych siapiau 3d a 2d yn eich cartrefi chi. // What a busy week, we have had fun learning about 3d shapes over the last two weeks. We went on a shape hunt in the outside area, stamping 3d shapes to create 2d shapes and dividing the 2d and 3d shapes, looking at the differences between the 2d and 3d shapes. I wonder if your child can tell what is different? Can they name some of the different shapes? (cube, cuboid, sphere, pyramid, cylinder) Look around the house to see if you have 3d and 2d shapes in your homes.
Mae’r plant wrth eu boddau yn chwarae gemau Addysg Gorfforol. Mae’r thema yma yn un wych er mwyn defnyddio’r parasiwt – rydym wedi bod yn chwarae gemau gwahanol ynglŷn â’r lliwiau llachar. Maent wedi bod yn datblygu sgiliau gwrando a datblygu fwy o ddealltwriaeth o’r iaith lafar yn ystod ein sesiynau. Gwych! // The children love playing PE games. This theme is a great one to use the parachute – we have been playing different games about the bright colours. They have been developing their listening skills and developing a greater understanding of the spoken language during our sessions. Great!
Gwyddoniaeth / Science! Cymysgu lliwiau er mwyn creu lliwiau gwahanol yw ein tasg Gwyddoniaeth. Trafodwch gyda’ch plant pa ddau liw sydd yn gwneud lliwiau gwahanol. Mae’r dasg hon yn un da er mwyn sicrhau bod pawb yn golchi dwylo yn gywir. // Mixing colors to create different colours is our Science task. Discuss with your children which two colours make different colours. This task is a good one to ensure that everyone washes their hands correctly.

Thema newydd – Lliwiau Llachar

 

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n:
•gosod safonau uchel i’w hunain, yn edrych am ac yn mwynhau her;
•adeiladu sylfaen o wybodaeth ac yn meddu’r sgiliau i gysylltu a chymhwyso’r wybodaeth honno o fewn testunau gwahanol;
•holi ac yn mwynhau datrys problemau;
•gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg; Ambitious, capable learners who:
•set themselves high standards and seek and enjoy challenge;
•are building up a body of knowledge and have the skills to connect and apply that knowledge in different contexts;
•are questioning and enjoy solving problems;
•can communicate effectively in different forms and settings, using both Welsh and English;
Plant y Derbyn o ddosbarthiadau Mrs Mills a Mrs Morgan yn mwynhau gweithgareddau ysbrydoli am ein thema newydd Lliwiau Llachar, y tymor yma fe fyddwn yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau ar lliw a sut mae lliwiau gwahanol yn gwneud i ni deimlo. / The Reception children from Mrs Mills and Mrs Morgan ‘s class enoying activities inspiring our new theme for the term ‘Bright Colours’, this term we will be doing a variety of activities on colour and how different colour make us feel.
Rydym wedi bod yn brysur gydag arbrwf cymysgu lliwiau, roedd y plant yn mwynhau edrych ar y liiwiau yn ewid a chreu patrymau. We have been busy experimenting with mixing colours, the children enjoyed seeing the colours change and making patterns.

Gweithgareddau arian / Money activities

Rydym dal yn brysur gydag amrywiaeth o weithgareddau Nadoligaidd gan gynnwys gwaith arian yn y dosbarth.  Mae’r plant yn mwynhau’r agwedd yma o Fathemateg.

Gofynnwch i’ch plentyn dangos i chi 1c a 2c.  Ceisiwch chwarae rôl o siop gydag eitemau o amgylch y tŷ.

We are still busy with Christmas activities including money work in the class.  The children are enjoying this aspect of maths a lot. Ask your child to show you 1p and 2p.  Try to role play shop with items from around the house.