Defnyddio fy ngwerthoedd i wneud penderfyniadau doeth / Use my values to make sensible decisions
Dysgu am y byd o fy nghwmpas nawr ac yn y dyfodol / Learn about the world around me now and in the future
Gofalu am ein byd / Look after our world
Gwybod bod pethau da a drwg yn y byd / Know that there are good and bad things in the world
Gofalu am yr amgylchedd / Look after the environment
Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication
Fel rhan o’n gwers athroniaeth i blant, mae blwyddyn 3 wedi bod yn edrych ar luniau o lygredd y môr ac yn trafod pwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel i’r môr. Buont yn edrych ar gwestiynau athronyddol ac yn trafod yr hyn a deimlent am y lluniau a thrafod amrywiol ansoddeiriau i ddisgrifio’r lluniau. Penderfynodd pawb pa mor bwysig oedd gofalu am y byd ac maent wedi penderfynu ysgrifennu stori i ddisgyblion iau ar bwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel yn y môr.
As part of our p4c lesson, year 3 have been looking at pictures of sea pollution and discussing the importance of not throwing rubbish into the sea. They looked at philosophical questions and discussed what they felt about the pictures and discussed various adjectives to describe the pictures. All decided how important it was to look after the world and have decided to write a story for younger pupils on the importance of not throwing rubbish in the sea.