Defnyddio fy sgiliau i greu rhywbeth newydd / Use my skills to create something new
Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology
Mae dosbarth Blwyddyn 3 Mrs Davies wedi mwynhau arbrofi gydag offerynnau cerdd yn fawr iawn heddiw. Buont yn trafod sut mae sain yn cael ei gynhyrchu a bod sain yn dirgrynu er mwyn i ni ei glywed. Fe wnaethon nhw greu eu band taro bach eu hunain hefyd.
Mrs Davies’ Year 3 class have thoroughly enjoyed experimenting with musical instruments today. They discussed how sound was produced and that sound vibrates in order for us to hear it. They also created their own little percussion band.