All posts by ClareDavies

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Trio fy ngorau glas ym mhob tasg / Try my best in all tasks

Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i gwblhau tasgau / Use my knowledge and skills to complete tasks

Trafod fy ngwaith / Discuss my work

Gofyn cwestiynau er mwyn datrys problemau / Ask questions to solve problems

Trawsgwricwlaidd / Cross-Curricular

Mae blynyddoedd 1, 2 a 3 wedi mwynhau cyflawni tasgau amrywiol a chael gwybodaeth a dealltwriaeth o’n thema newydd ‘Dysgu di-ri’. Maent wedi gallu cyfleu syniadau a gofyn cwestiynau perthnasol am yr hyn yr hoffent ei ddysgu am y tymor hwn.

Years 1, 2 and 3 have enjoyed completing various tasks and gaining knowledge and understanding of our new theme ‘Dysgu di-ri’. They have been able to communicate ideas and ask relevant questions on what they’d like to learn about this term.

Addysg Gorfforol / Physical Education

Deall sut i gadw’n iach a diogel drwy gadw’n heini / Understand how to keep healthy and safe through exercising

Teimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel / Feeling happy, healthy and safe

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Mae blwyddyn 3 wedi mwynhau cyflawni amrywiol weithgareddau sydd wedi caniatáu iddynt arddangos eu sgiliau amrywiol. Maent wedi dysgu dilyn cyfarwyddiadau a phwysigrwydd gwaith tîm.

Year 3 have enjoyed completing various activities that have allowed them to demonstrate their various skills. They have learnt to follow instructions and the importance of team work.

Dyma fi! Here I am!

Dangos fy syniadau mewn gwahanol gyfyngau / Show my ideas using different mediums

Defnyddio fy sgiliau yn fy ngwaith / Use my skills in my work

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Mae dosbarth blwyddyn 3 Mrs Davies wedi bod yn brysur yn creu hunan bortreadau i gyflwyno eu hunain ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.

Mrs Davies’ year 3 class have been busy creating self portraits to introduce themselves at the beginning of the new school year.

Sblat! / Splat!

Trio fy ngorau glas ym mhob tasg / Try my best in every task

Cyfathrebu yn dda / Communicate well

Defnyddio rhifau mewn gwahanol sefyllfaoedd / Use numbers in different situations

Mathemateg a Rhifedd/ Mathematics and Numeracy

Mae dosbarth blwyddyn 3 Mrs Davies wedi bod yn brysur yn dilyn cyfarwyddiadau i ddod o hyd i rifau amrywiol o gwmpas y dosbarth ac yn y neuadd. Maent wedi gwella eu dealltwriaeth o werth rhifau o fewn rhifau 2-4 digid.

Mrs Davies’ year 3 class have been busy following instructions to find various numbers around the classroom and in the dinner hall. They’ve enhances their understanding of the value of numbers within 2-4 digit numbers.

Dathlu Cymreictod / Celebrating Welshness

Cyfathrebu yn dda / Converse well

Trio fy ngorau glas ym mhob tasg / Try my best in all tasks

Siarad am yr hyn rwy’n ei wybod yn Gymraeg / Talk about what I know in Welsh

Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Mae dosbarth blwyddyn 3 Mrs Davies wedi mwynhau prynhawn o gemau i ddathlu eu 2il safle yng nghystadleuaeth Cymry Cwl yr ysgol. Maent wedi gweithio’n galed i siarad Cymraeg tu fewn a thu allan i’r dosbarth. Da iawn i chi gyd!

Mrs Davies’ year 3 class have enjoyed an afternoon of games to celebrate their 2nd place in the school’s Cymry Cwl competition. They have worked hard on speaking Welsh in and outside the classroom. Well done all!

Sgiliau

Deall sut i gadw’n iach / Understand how to stay healthy

Bod yn hyderus i berfformio / Be confident to perform

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Mae blwyddyn 3 wedi mwynhau eu gwersi sgiliau lle maen nhw wedi dysgu cydweithio a gweithio fel timoedd yn chwarae pêl droed a rygbi.

Years 3 have thoroughly enjoyed their sgiliau lessons where they’ve learnt to cooperate and work as teams playing football and rugby.

Byw’n Iach / Living Healthily

Gofalu am fy hun / Look after myself

Deall sut i gadw’n iach a ddiogel drwy ddeiet cytbwys a chadw’n heini / Understand how to keep safe and healthy by following a healthy diet and keeping fit

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Fel cyflwyniad i fyw yn iach yn ein gwersi Jigsaw, dyma ddosbarth blwyddyn 3 Mrs Davies yn dilyn cyfarwyddiadau Jino i gadw’n heini ac yn cydweithio i ddarganfod faint o siwgr sydd mewn rhai bwydydd.

As an introduction to living healthily in our Jigsaw lessons, here are Mrs Davies’ year 3 class following Jino’s instructions to keep fit and cooperating to find how much sugar is in certain foods.

Chwedlau Cymreig / Welsh Tales

Fod yn ymholgar / Be inquisitive

Cyfathrebu yn dda / Communicate well

Gofyn cwestiynau / Ask questions

Siarad am yr hyn rwy’n ei wybod yn Gymraeg / Talk about what I know through the medium of Welsh

Iaith a Llythrennedd/ Language and Literacy

Diolch i ddisgyblion blwyddyn 7 Bryn Tawe am ddod i rannu eu chwedlau Cymreig gyda dosbarthiadau blwyddyn 3.

Thank you to the year 7 pupils from Bryn Tawe for sharing their Welsh traditional tales with the year 3 classes.

Creu Alaw / Creating a Melody

Gweithio fel rhan o dîm / Work as part of a team

Dangos fy syniadau a’n emosiynau drwy wahanol gyfyngau / Show my ideas and emotions through different genres

Gwneud y gorau o bob cyfle / Make the most of every opportunity

Celfyddydau Mynegiannol / Creative Arts

Mae blwyddyn 3 wedi bod yn defnyddio’r raddfa bentatonig i greu alaw tra’n cofio mai’r rhythm i bob llinell alaw oedd ‘Icebergs float on the sea’.

Year 3 have been using the pentatonic scale to create a melody whilst remembering the rhythm of each melody line is ‘Icebergs float on the sea’.

Gwers Entrepreneuriaeth / Entrepreneurship Lesson

Cyfathrebu’n dda / Converse well

Defnyddio’r hyn rwy’n ei ddysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd / Use what I’ve learnt in various situations

Siarad am yr hyn rwy’n ei wybod yn Gymraeg / Talk about what I know in Welsh

Defnyddio rhifau mewn gwahanol sefyllfaoedd / Use numbers in different situations

Trawsgwricwlaidd / Cross-Curricular

Fel rhan o wythnos bwyta’n iach a’n gwers entrepreneuriaeth, mae blwyddyn 3 wedi bod yn brysur yn creu bwydydd blasus, iachus i’w gilydd am 50c yr un. Bydd yr elw yn mynd i elusen sy’n helpu anifeiliaid sydd wedi’u heffeithio gan lygredd y môr.

As part of healthy eating week and our entrepreneurship lesson, year 3 have been busy creating tasty, healthy treats for each other for 50p each. The profit will be going to a charity that helps animals affected by sea pollution.