Deall sut i drin eraill / Understand how to treat others
Gofalu am fy hun ac yn dangos caredigrwydd at eraill / Look after myself and show kindness to others
Gwneud penderfyniadau synhwyrol i gadw’n ddiogel a gwybod ble i droi am gymorth / Make sensible decisions to keep safe and know where to turn for support
Iechyd a Lles / Health and Well-being
Diolch i PC George am ddod i siarad i blant blwyddyn 3 am ddiogelwch y we.
Thank you to PC George for speaking to year 3 about the importance of internet safety.
Cymhwyso gwybodaeth am effaith ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd / Apply knowledge about the impact of exercise on physical and mental health in their daily lives.
Iechyd a Lles / Health and Well-being
Dyma blwyddyn 1 yn cynnal ein sesiwn ymarfer corff wythnosol yn y neuadd a sesiwn ioga er mwyn ymlacio a tawelu.
Here’s year 1 participating in their weekly PE and yoga sessions. Great opportunity to relax!
Yn barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas / Are ready to lead fulfulling lives as valued members of society
Iechyd a Lles / Health and Well-being
Daeth PC George i weld blwyddyn 1 heddiw. Dysgon ni am bobl sydd yn ein helpu yn y gymdeithas. Roedd angen cofio rhif pwysig sef 999 os ydym ni mewn argyfwng!
PC George came to visit year 1 today. We learnt about people that can help us in the community. We had to remember a very important number which was 999 in an emergency!
Gwneud penderfyniadau synhwyrol i gadw’n ddiogel a gwybod ble i droi am gymorth / Make sensible decisions to stay safe and know where to turn to for help
Iechyd a Lles / Health and Well-being
Blwyddyn 2 yn cael gwers pwysigrwydd dilyn rheolau i fod yn ddiogel gyda phlismon Rob.
Year 2 having a lesson with policeman Rob about the importance of following the rules.
Trio fy ngorau ym mhob tasg / Try my best in every task
Trafod fy ngwaith / Discuss my work
Egluro’r hyn rwyf wedi ei ddysgu / Explain what I have learnt
Trawsgwricwlaidd / Cross-curricular
Mae blynyddoedd 1, 2 a 3 wedi mwynhau dathlu’r awdur Roald Dahl yn fawr. Gwnaethpwyd ymdrech fawr i wisgo i fyny yn eu hoff gymeriadau. Cwblhawyd darnau amrywiol o waith yn ystod y dydd – creu bar siocled, dylunio jar breuddwydion, ymweliad â’r llyfrgell a gwrando ar straeon amrywiol Roald Dahl i enwi dim ond rhai.
Years 1, 2 and 3 have thoroughly enjoyed celebrating the wonderful author Roald Dahl. A great effort was made to dress up in their favourite characters. Various pieces of work were completed during the day – creating a chocolate bar, designing a dream jar, a visit to the library and listening to various Roald Dahl stories to name but a few.
Trio fy ngorau glas ym mhob tasg / Try my best in all tasks
Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i gwblhau tasgau / Use my knowledge and skills to complete tasks
Trafod fy ngwaith / Discuss my work
Gofyn cwestiynau er mwyn datrys problemau / Ask questions to solve problems
Trawsgwricwlaidd / Cross-Curricular
Mae blynyddoedd 1, 2 a 3 wedi mwynhau cyflawni tasgau amrywiol a chael gwybodaeth a dealltwriaeth o’n thema newydd ‘Dysgu di-ri’. Maent wedi gallu cyfleu syniadau a gofyn cwestiynau perthnasol am yr hyn yr hoffent ei ddysgu am y tymor hwn.
Years 1, 2 and 3 have enjoyed completing various tasks and gaining knowledge and understanding of our new theme ‘Dysgu di-ri’. They have been able to communicate ideas and ask relevant questions on what they’d like to learn about this term.
Deall sut i gadw’n iach a diogel drwy gadw’n heini / Understand how to keep healthy and safe through exercising
Teimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel / Feeling happy, healthy and safe
Iechyd a Lles / Health and Well-being
Mae blwyddyn 3 wedi mwynhau cyflawni amrywiol weithgareddau sydd wedi caniatáu iddynt arddangos eu sgiliau amrywiol. Maent wedi dysgu dilyn cyfarwyddiadau a phwysigrwydd gwaith tîm.
Year 3 have enjoyed completing various activities that have allowed them to demonstrate their various skills. They have learnt to follow instructions and the importance of team work.