Monthly Archives: March 2023

Math Actif / Math Active

Defnyddio rhifau mewn gwahanol sefyllfaoedd / Using numbers in different situations

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Disgyblion blwyddyn 2 yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgaredd math actif:’Taflwch a Mesurwch.’ Cafodd y disgyblion cyfle i daflu bagiau ffa, amcangyfrif a mesur hyd y tafliad mewn metrau.

Year 2 pupils enjoying their math active lesson: ‘Throw and Measure.’ They had a chance to throw bean bags, guess and measure the length of the throws in metres.

Ffenestri Lliw / Coloured Windows

Defnyddio fy ngwybodaeth a sgiliau i greu rhywbeth newydd / Use my knowledge and skills to create something new

Dangos fy syniadau a’n emosiynau drwy wahanol gyfyngau / Show my ideas and emotions through different mediums

Gwneud y gorau o bob cyfle / Make the best of every opportunity

Trawsgwricwlaidd / Cross Curricular

Mae blwyddyn 3 Mrs Davies wedi bod yn dysgu am Gristnogaeth. Maent wedi trafod eglwysi ac wedi edrych ar gymesuredd ac adlewyrchiad yn y ffenestri lliw.

Mrs Davies’ year 3 have been learning about Christianity. They have discussed churches and have looked at symmetry and reflection in the coloured windows.

Brownis Blasus / Tasty Brownies

Trio fy ngorau glas ym mhob tasg / Try my best in every task

Cyfathrebu’n dda / Communicate well

Defnyddio rhifau mewn gwahanol sefyllfaoedd / Use numbers in various situations

Egluro beth rwyf wedi dysgu / Explain what I have learnt

Trawsgwricwlaidd / Cross Curricular

Mwynhaoedd blwyddyn 3 ddatblygu sgiliau amrywiol trwy goginio brownis gan ddefnyddio cynhwysion Masnach Deg. Datblygodd y plant eu hiaith a’u cyfathrebu trwy ddarllen, trafod a dilyn rysáit. Trwy bwyso cynhwysion a dilyn camau, datblygwyd eu sgiliau rhifedd. Wrth drafod pwysigrwydd Masnach Deg, daeth pawb yn ddinesydd egwyddorol a gwybodus y byd.

Year 3 thoroughly enjoyed developing various skills by cooking brownies using Fair Trade ingredients. They developed their language and communication by reading, discussing and following a recipe. By weighing ingredients and following steps, they developed their mathematical skills. Whilst discussing the importance of Fair Trade, everyone became a principled and informed citizen of the world.

Pwyso / Weighing

Defnyddio’r hyn rwy’n ei ddysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd / Using what I have learnt in different situtations

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Ar ôl ffocysu ar fesur pwysau yn ystod ein gwersi mathemateg, dyma ddisgyblion blwyddyn 2 yn defnyddio’i sgiliau i amcangyfrif mesuriadau pwysau gwahanol eitemau mewn gramau cyn defnyddio cloriannau pwyso i wirio atebion.

After focusing on measuring weight during our math lessons, here are our year 2 pupils using their skills to estimate the weight of certain items in grams before using the weighing scales to check their answers.

Masnach Deg / Fair Trade

Dysgu am y byd o fy nghwmpas (diwylliant, cymuned, a chymdeithas) nawr ac yn y gorffennol / Learning about the world around me (culture, community and society) now and in the past

Dyniaethau / Humanities

Gweler disgyblion blwyddyn 2 yn cyfuno amrywiaeth o sgiliau wrth ddysgu am Fasnach Deg.

See our year 2 pupils combining numerous skills as they learn about Fair Trade.

Diwrnod y Llyfr / World Book Day

Cyfathrebu yn dda / Communicate well

Trafod fy ngwaith / Discuss my work

Siarad am yr hyn rwy’n ei wybod yn Gymraeg / Talk about what I know in Welsh

Darganfod gwybodaeth ac yn penderfynu sut i’w defnyddio / Discover information and decide how to use it

Iaith a Llythrennedd / Language and Communication

Da iawn i bawb am eu hymdrech hyfryd yn gwisgo lan ar gyfer Diwrnod y Llyfr. Roedd pawb yn edrych yn anhygoel! Mwynhaodd blwyddyn 3 gwylio a thrafod Y Gryffalo. Buont hefyd yn creu lluniau o lyfrau Roald Dahl.

Well done to everyone for their wonderful effort in dressing up for World Book Day. Everyone looked amazing! Year 3 enjoyed watching and discussing The Gruffalo. They also created images of various Roald Dahl books.

Cerddoriaeth / Music

Gweithio fel rhan o dîm / Working as part of a team

Dangos fy syniadau a’n emosiynau drwy wahanol gyfyngau / Showing my thoughts and emotions through different intervals

Gallaf fod yn arweinydd a gadael i eraill arwain / I can be a leader and let others lead

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Roedd blwyddyn 3 wedi mwynhau dysgu am rythm a thempo wrth chwarae offerynnau i gyfeilio amrywiol ddarnau o gerddoriaeth.

Year 3 throughly enjoyed learning about rhythm and tempo whilst playing instruments to accompany various pieces of music.

Peintio Daffodil / Painting Daffodils

Cyfleu fy syniadau mewn gwahanol ffyrdd / Communicate my ideas in different ways

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Art

Daffodils ym mhob man! Roedd disgyblion blwyddyn 2 wedi mwynhau gwneud ‘lluniau arsylwi’ wrth beintio’r daffodils ar Ddydd Gŵyl Dewi!

Daffodils everywhere! Year 2 really enjoyed using the ‘observation drawing’ technique as they painted some daffodils on St David’s Day!

Dawnsio Gwerin / Folk Dancing

Gweithio fel rhan o dîm / Working as a team

Gallaf fod yn arweinydd a gadael i eraill arwain / I can be a leader and let others lead

Trawsgwricwlaidd / Cross Curricular

Disgyblion blwyddyn 2 yn mwynhau cydweithio fel dosbarth wrth wneud peth dawnsio gwerin ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Year 2 enjoying and collaborating as they do some Welsh folk dancing on St David’s Day.

Eisteddfod Ysgol i ddathlu Dydd Gwyl Dewi / School Eisteddfod to celebrate St David’s Day

Trio fy ngorau glas ym mhob tasg / Try my best in every task

Trawgwricwlaidd / Cross Curricular

Da iawn i bawb yng ngham cynnydd 2 am gystadlu yn Eisteddfod yr ysgol. Mwynhaodd pawb yr Eisteddfod i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Llongyfrachiadau enfawr i’r disgyblion buddugol!

Well done to everyone from Progression Stage 2 for competing in the school Eisteddfod. Everyone enjoyed celebrating St David’s Day. Congratulations to the winning pupils!