All posts by HelenJones

Ymarfer ar gyfer y Mabolgampau / Practice for the Sports Day

Cymhwyso gwybodaeth am effaith ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd.

Yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Apply knowledge about the impact of exercise on physical and mental health in their daily lives.

Take part in physical activity.

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Dyma Blwyddyn 1 yn mynd ati i ymarfer ar gyfer eu diwrnod Mabolgampau. Mae pawb yn frwd ac yn edrych ymlaen i’r diwrnod!

Year 1 are preparing for their Sports Day. Everybody is keen and looking forward to the day!

Creu cartref Bili Broga/ Creating Billy frog’s home

Cysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion.

Connect and apply their knowledge and skills to create ideas and products.

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Rydym wedi bod yn darllen stori Bili Broga. Rydym wedi dysgu y stori ar lafar. Roedd y plant eisiau creu cartref Bili. Mwynhawyd y profiad!

We have been reading a story about Billy the frog. We have learnt the story and are able to recite it. The children wanted to create Billy’s home. What an enjoyable experience!

Diogelwch ar y traeth / Beach Safety

Gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau gan ddefnyddio’r Gymraeg.

Can communicate effectively in different forms and settings using Welsh.

Iaith a Llythrennedd / Language and Literacy

Mae Blwyddyn 1 wedi cael y cyfle i drafod peryglon ar y traeth. Aethpwyd ati i ddarllen darn am y traeth a chreu llun lliwgar. Y brif dasg oedd llunio rheolau er mwyn cadw’n ddiogel. Edrych ymlaen yn awr am ein gwibdaith i’r traeth!

Year 1 have been discussing the dangers on the beach. They read a piece of work on the beach and created a colourful picture. The main task was to create rules on the beach! Looking forward to our trip to the seaside!

Mesur tymheredd/ Measuring temperature

Deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol

Understand how to interpret data and apply mathematical concepts

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Yn ystod yr wythnos rydym wedi bod yn mesur y tymheredd bob dydd. Mae wedi bod yn wythnos grasboeth! Gwnaethom gymharu bob dydd a darganfod y poethaf. Gwnaeth pawb weithio mewn tim a chyfrannu.

During the week we measured the temperature. It has been scorching hot! We compared every day and discovered the warmest day. We all worked as a team and contributed to the task.

Wythnos Bwyta’n Iach / Healthy Eating Week

Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd.

Apply knowledge about the impact of diet on physical and mental health in their daily lives.

Iechyd a Lles/ Health and Well-being

Rydyn ni ym Mlwyddyn 1 wedi bod yn dathlu Wythnos Bwyta’n Iach. Penderfynom greu frechdan neu byrbryd iachus ar gyfer ein trip i’r traeth. Cawsom gyfle i flasu bara amrywiol, caws, ham, tomato, ciwcymbr a moron. Blasus iawn!

We in Year 1 have been celebrating Healthy Eating Week. We decided to create a healthy sandwich or snack for our trip to the beach. We tasted various bread, cheese, ham, tomato, cucumber and carrots. Very tasty!

Sesiwn Maths Actif

Holi a datrys problemau/ Are able to question and solve problems

Mathemateg a Rhifedd/ Mathematics and Numeracy

Dyma blant Blwyddyn 1 yn mwynhau sesiwn Maths Actif yn yr haul. Yn y dasg gynhesu, roedd rhaid trefnu rhifau hyd at 30. Bu rhaid trafod a chydweithio er mwyn cwblhau y dasg. Aethpwyd ati wedyn i drefnu dyddiadau penodol. Roedd rhaid edrych ar y mis a’r dyddiad rhifol er mwyn trefnu yn gywir.

Here are Year 1 children enjoying their Maths Active session in the sun. In the warm up task they had to organise the numbers to 30. They had to use questioning and cooperative skills in order to solve the task. The children moved on to look at organising specific dates and using their knowledge of the months of the year and numbers to put them in order.

Ymarfer corff/ Physical education

Cymhwyso gwybodaeth am effaith ymarfer corff ar iechyd corfforola meddyliol yn eu bywydau bob dydd/ Apply knowledge about the impact of exercise on physical and mental health in their daily lives.

Gwybod sut i ddod ohyd i’r wybodaeth a’r gefnogaeth i gadw’n ddiogel ac iach wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol/Know how to find the information and support to keep safe and take part in physical activity.

Iechyd a Lles/ Health and Wellbeing

Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff a oedd yn ffocysu ar gadw yn heini, gofalu am iechyd meddwl a ehangu geirfa.

Year 1 had the opportunity to take part in physical education sessions that focused on fitness, mindfulness and extended their vocabulary in the topics.

Wythnos Ysbrydoli/ Inspiration Week

Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd/ Apply knowledge about the impact of diet on physical and mental health in their daily lives.

Rhoi eu hegni a’u sgiliau fel y gall eraill elwa ac yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith/ Give of their energy and skills so that other people will benefit and are ready to play a full part in life and work.

Iechyd a Lles/ Health and Wellbeing

Iaith a Llythrennedd/ Language and Communication

Cafodd Blwyddyn 1 amser gwych yn cychwyn y thema newydd , ‘Bwydydd Blasus’. Cymerwyd y cyfle i flasu ffrwythau, creu dilyniant patrymau a chwarae gemau a oedd yn hybu geirfa thematig.

Year 1 had an excellent time when the new theme was introduced, ‘Delicious Food’. We took the opportunity to taste various fruit, created consecutive patterns and played games that would promote thematic vocabulary.

Creu carden Nadolig a chalendr/ Creating a Christmas card and calendar

Mynegi eu syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau gwahanol / Express ideas and emotions through different media

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Dyma Blwyddyn 1 yn creu calendr gan arbrofi ar liwiau a thechnegau amrywiol.
Here are Year 1 are creating calendars and experimenting with different colours and techniques.

Yn cychwyn creu carden Nadolig gan ddewis lliwiau effeithiol.

Starting to create a Christmas card by choosing suitable colours.